Lleoliad:
Committee Room 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 9 Chwefror 2021
Amser:
09.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Graeme Francis - Clerc y Pwyllgor
Kayleigh Imperato – Dipwrwy Glerc
0300 200 6373
Deisebau@senedd.cymru
------
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae'r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor at ddibenion diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant
(Tudalennau 1 - 48)
2 Deisebau newydd COVID-19
2.1 P-05-1092 Peidiwch â gohirio etholiadau mis Mai 2021
(Tudalennau 49 - 52)
2.2 P-05-1108 Cyhoeddi canllawiau a chynllun talebau i achub gweithgarwch y sector babanod a phlant bach yng Nghymru
(Tudalennau 53 - 55)
2.3 P-05-1114 Dylid caniatáu i aciwbigwyr traddodiadol yng Nghymru weithio yn ystod cyfnodau clo
(Tudalennau 56 - 71)
2.4 P-05-1116 Rhowch flaenoriaeth i bobl ag anabledd dysgu gael eu brechu yn erbyn COVID-19 yng Nghymru
(Tudalennau 72 - 77)
2.5 P-05-1121 Agor ysgolion i blant gweithwyr allweddol yn unig dros gyfnod clo Ionawr 2021
(Tudalennau 78 - 80)
Deisebau Newydd Eraill
2.6 P-05-1085 Gwneud hyfforddiant gwrth-hiliaeth yn orfodol i bob Cynghorydd etholedig ac Aelod o'r Senedd yng Nghymru
(Tudalennau 81 - 82)
2.7 P-05-1090 Diogelwch ar y ffyrdd: Gostwng y terfyn cyflymder ar gefnffordd yr A487 i 20 milltir yr awr drwy Benparcau, Aberystwyth
(Tudalennau 83 - 87)
2.8 P-05-1094 Rhoi terfyn ar ddirywiad treftadaeth Pontypridd - achubwch y Bont Wen
(Tudalennau 88 - 93)
2.9 P-05-1105 Gwnewch hyfforddiant adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) yn orfodol mewn ysgolion
(Tudalennau 94 - 103)
2.10 P-05-1109 Rhaid darparu lleoedd parcio pwrpasol am ddim ar gyfer holl staff ysbytai Cymru yn ystod eu sifft
(Tudalennau 104 - 110)
2.11 P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011
(Tudalennau 111 - 121)
2.12 P-05-1113 Cyflwyno mesurau diogelwch ar y ffyrdd ar yr A44 yn Llanbadarn Fawr, Ceredigion
(Tudalennau 122 - 125)
2.13 P-05-1137 Galwad ar i Lywodraeth Cymru roi cyllid teg i Lyfrgell Genedlaethol Cymru
(Tudalennau 126 - 137)
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
3.1 P-05-795 Achosi Niwsans neu Aflonyddwch ar safleoedd y GIG
(Tudalennau 138 - 139)
Bydd y tair eitem a ganlyn yn cael eu trafod ar y cyd
3.2 P-05-1001 Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Velindre newydd arfaethedig
(Tudalennau 140 - 161)
3.3 P-05-1018 Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol
(Tudalennau 162 - 164)
3.4 P-05-1045 Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol
(Tudalennau 165 - 172)
3.5 P-05-1068 Caniatáu cyfarfodydd ymbellhau cymdeithasol mewn gerddi preifat i ddilyn y wyddoniaeth ac osgoi teimlo’n ynysig
(Tudalennau 173 - 179)
3.6 P-05-1070 Dylid cynghori pawb yng Nghymru sy'n eithriadol o agored i niwed neu a fu’n cysgodi gynt i aros gartref, nid mynd i’r gwaith, yn ystod cyfnodau pan fo lefel uchel o haint Covid-19 yn y gymuned
(Tudalennau 180 - 182)
Tai a Llywodraeth Leol
3.7 P-05-1056 Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru
(Tudalennau 183 - 193)
3.8 P-05-903 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cyngor
(Tudalen 194)
Addysg
3.9 P-05-1025 Tegwch i fyfyrwyr sy'n sefyll arholiadau yn 2021
(Tudalennau 195 - 200)
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
3.10 P-05-1026 Deiseb i wahardd maglu bywyd gwyllt i’w defnyddio yn y fasnach ffwr
(Tudalennau 201 - 203)
3.11 P-05-1040 Cyflwyno moratoriwm ar gymeradwyo unrhyw losgyddion gwastraff newydd ar raddfa fawr yng Nghymru
(Tudalennau 204 - 208)
Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
3.12 P-05-1051 Caniatáu i athletwyr iau Cymru hyfforddi dan yr un rheoliadau Covid â’u cymheiriaid iau yn Lloegr
(Tudalennau 209 - 211)
Economi a Thrafnidiaeth
3.13 P-05-1061 Rhowch gefnogaeth ariannol i fusnesau Lletya Anifeiliaid Anwes
(Tudalennau 212 - 217)
Cyllid
3.14 P-05-1069 Arbed y tir fferm a'r caeau gwyrdd yn Cosmeston
(Tudalennau 218 - 230)
Cydraddoldeb
3.15 P-05-1072 Ymchwilio i’r pwerau sydd gan Senedd Cymru mewn perthynas â gwahardd therapi newid cyfeiriadedd rhywiol
(Tudalennau 231 - 233)
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
Eitem 5.
5 Ystyried adroddiad drafft - P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)
(Tudalennau 234 - 250)